10fed Tachwedd 2018, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
14.2.18
24.12.17
Mwy o'r Cyngerdd Cyhoeddi
Pwt o erthygl o rifyn Tachwedd Llafar Bro:Roedd y Neuadd yn orlawn a chafwyd cyngerdd ardderchog oedd yn llwyfan i dalentau’r fro.
Dyma Robert John Roberts, gynt o’r Manod, ond bellach yn byw ar Ynys Môn ac sy’n Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin yr Ŵyl, yn canu yn y cyngerdd.
Meddai Nesta Evans, Llan:
Roedd Neuadd Ysgol y Moelwyn dan ei sang ar y noson arbennig hon - ac i rywun nad oedd yno - cawsoch golled!
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yw Iwan Morgan ac mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant a gynhelir am y tro cyntaf, yn y Blaenau ym mis Tachwedd 2018. Llongyfarchiadau Iwan, a phawb sy’n gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl. Iwan hefyd sydd wedi cyfansoddi’r Cywydd Croeso i’r Ŵyl sydd yn y Rhestr Testunau a gyflwynwyd gan Iwan i Gwenan Gibbard, Cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac a oedd ar werth yn dilyn y cyngerdd.
| Awel a Tomos |
Edrych ymlaen am y cyngerdd nesaf fydd yn cyflwyno gwaith Robat Arwyn, ym Mehefin 2018.
Mae’r hen dref annwyl wedi cael aml i gnoc yn ddiweddar, ond dyma noson i godi calon pawb oedd yno.
![]() |
| Trio |
![]() |
| Meibion Prysor a Dylan Rowlands |
11.11.17
Y Cywydd Croeso
Dyma fideo o Gôr Meibion Prysor yn canu Cywydd Croeso Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018, gan Iwan Morgan, yn y Cyngerdd Cyhoeddi (14eg Hydref 2017, Ysgol y Moelwyn).
Maddeuwch y gwaith camera a sain simsan!
CYWYDD CROESO GŴYL CERDD DANT BLAENAU FFESTINIOG A'R FRO 2018
Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.
O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.
I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.
Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!
Iwan Morgan
Maddeuwch y gwaith camera a sain simsan!
CYWYDD CROESO GŴYL CERDD DANT BLAENAU FFESTINIOG A'R FRO 2018
Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.
O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.
I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.
Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!
Iwan Morgan
13.9.17
11.9.17
Gŵyl Cerdd Dant Llandysul 2017
Cofrestru Cofiwch fod y drefn newydd o gofrestru ar-lein yn weithredol eleni ar gyfer cystadlu yng Ngŵyl
Cerdd Dant Llandysul a'r Fro 2017.
Dyddiad cau cofrestru i gystadlu yw 1af, Hydref, 2017.
Ffurflen gofrestru ar wefan Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
-------
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar ddydd Sadwrn, 7fed o Hydref, 2017 am 2:00 o'r gloch yng Nghanolfan Fowlio, Maes Parcio San Pedr, Caerfyrddin (SA31 1QP) dan Lywyddiaeth a gwahoddiad Llywydd y Gymdeithas - Meinir Lloyd (Maesaleg).
Croeso cynnes i bawb - dewch i gefnogi.
Subscribe to:
Posts (Atom)


