10fed Tachwedd 2018, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Showing posts with label codi arian. Show all posts
Showing posts with label codi arian. Show all posts
15.4.18
27.3.18
Noson a hanner
Ganol mis Mawrth, cafwyd noson i'w chofio yn neuadd WI y Blaenau.
Daeth y Parchedig Marcus Robinson i Stiniog i gynnal noson o flasu gwin, er mwyn codi arian at Ŵyl Cerdd Dant 2018. Peidiwch a chael eich twyllo gan deitl y gweinidog, oherwydd nid noson sych oedd hon o gwbl.
Cafodd y neuadd lawn gyfle i flasu tri gwydriad o win gwyn, a thri coch, yn ogystal â rowlio chwerthin wrth flasu hiwmor unigryw y Cofi rhwng bob gwydriad.
Pinot Grigio o'r Eidal oedd gwydrad cynta'r noson. 'Dwi'n eich cychwyn chi'n ysgafn', meddai Marcus, 'cyn gweithio ein ffordd trwy winoedd mwy sylweddol at crescendo ar ddiwedd y nos'.
Soniodd am dymheredd cywir ar gyfer gwinoedd, gan rybuddio yn erbyn eu gweini'n rhy oer: 'Mae gwin fel pobol, wyddoch chi...'does yna ddim llawer o ogla' arnon ni pan da ni'n oer nagoes...ond wrth gynhesu, mae rhai ohonom ni'n magu aroma reit arbennig tydan..!' a chwerthin ei hochor hi efo'r gynulleidfa.
Roedd mwy o liw a blas ar yr ail win gwyn: grawnwin viognier o winllan Yalumba yn Awstralia. Ymysg y cochion oedd beaujolais-villages Ffrengig o 2015, a malbec arbennig iawn o'r Ariannin.
"Mae angen mwynhau rhywfaint ar fywyd, 'toes" medda fo, "wnai fyth ddallt pam bod rhai pobol isio gwario mwy am eu claddu na maen nhw am eu byw!"I gyd-fynd â'r gwin, cafwyd gwledd o gaws a bara, diolch i gefnogaeth hael Hufenfa De Arfon a Chaffi'r Graig Fawr.
Ar ddiwedd y noson, cafwyd ocsiwn hwyliog iawn, wrth i Marcus werthu'r poteli oedd heb eu hyfed.
Diolch i Delyth Gray am drefnu noson mor hwyliog. Mae coffrau'r Ŵyl dipyn iachach rwan, a llond 'stafall o bobol wedi cael mwynhau noson gofiadwy a gwahanol iawn i'r arfer.
(Lluniau: Stu Gray a Paul W)
Labeli:
bara,
caws,
codi arian,
GCD2018,
gwin,
Marcus Robinson
14.2.18
8.6.17
Bash yn y Beudy
Lluniau sâl ond noson arbennig! Diolch i bawb fu'n rhan o'r trefniadau.
[Diweddarwyd y dudalen ar y 18fed o Fehefin 2017. Lluniau PW]
![]() |
| Band Arall yn gwthio'r cwch i'r dwr, a'r haul dal i dywynnu |
![]() |
| Dawnsio gwerin... o ryw fath! |
![]() |
| Hefin a Pops wedi ymuno â'r lein-yp |
![]() |
| "Moliannwn oll yn llo-o-on..." |
![]() |
| Cantorion 'Tri Gog a Hwntw' yn morio; er mae'n edrych yn debycach i chwech neu saith Gog ac un Hwntw i mi... |
[Diweddarwyd y dudalen ar y 18fed o Fehefin 2017. Lluniau PW]
12.3.17
Cyngerdd Dathlu -a mwy i ddod!
Cafwyd cyngerdd ardderchog yn Ysgol y Moelwyn ddiwedd Medi 2016 i ddathlu llwyddiant Seindorf yr Oakeley a Chôr y Brythoniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaed elw o dros £1000 i agor cyfri' Gŵyl Cerdd Dant 2018. "Un o’r ardaloedd hollbwysig yn hanes y deffroad a fu ym myd canu gyda’r tannau yn ystod y ganrif aeth heibio oedd ardal Ffestiniog,” meddai’r Doctor Aled Lloyd Davies yng nghyfrol gyntaf ‘Canrif o Gân’ - cyfrol sy’n olrhain datblygiad cerdd dant ym Meirionnydd, Dinbych a’r Fflint o 1881 hyd 1998.
“Yno, oddeutu troad y ganrif, ynghanol bwrlwm diwydiant llechi’r cyfnod, yr oedd hefyd fwrlwm diwylliannol, lle rhoddwyd bri ar lenyddiaeth a barddoniaeth, côr a band, gwleidyddiaeth a chrefydd.”Er mai atgof o’r dyddiau fu ydy olion tomennydd rwbel y chwareli bellach, a bod nifer yr addoldai
wedi lleihau’n fawr, mae’r bri’n parhau yn yr agweddau diwylliannol eraill, fel y tystia’r gyngerdd yma– yng nghwmni Seindorf yr Oakeley (a gipiodd y wobr gyntaf ym Mhrifwyl y Fenni am y drydedd waith yn olynol) a Chôr y Brythoniaid – y côr meibion a ddaeth gyntaf allan o wyth o gorau yn yr un Brifwyl. Dyma destun dathlu’n wir!
![]() |
| Llun* o dudalen facebook Gŵyl 2016 Llŷn ac Eifionydd. |
Mae llawer mwy o weithgareddau wedi eu trefnu eisoes i godi arian at yr Ŵyl.
Bydd y cyntaf o'r rhain ar y 12fed o Ebrill, yn Festri Capel Bowydd am 7.30, pryd fydd Sian Meinir yn dehongli gwaith Ann Griffiths 'Y Danbaid Fedndigaid Ann', mewn cydweithrediad ag Archif Brith Gof. Tocynnau o Siop Lyfrau'r Hen Bost am £5.
Ar yr 17eg o Fehefin bydd 'Bash yn y Beudy' yn Nhŷ Isaf Llan Ffestiniog.
Bydd Cyngerdd Cyhoeddi'r Ŵyl ar nos Sadwrn, Hydref y 14eg yn neuadd Ysgol y Moelwyn.
Gwyliwch y Calendr am fanylion mwy o nosweithiau a gweithgareddau i ddod!
*Llun -byddwn yn falch o ychwanegu manylion hawlfraint; cysylltwch o.g.y.dda. Diolch
Subscribe to:
Posts (Atom)







