13.1.19

1.10.18

Cofrestru

Gallwch bellach gofrestru ar-lein ar gyfer unrhyw un o'r cystadlaethau, boed yn unawd telyn; cyfansoddi cainc; parti alaw werin; neu ddawnsio.


Ewch ati, ac edrychwn ymlaen yn arw i'ch croesawu yn 'Stinog ar Dachwedd y 10fed!

Dolen i gofrestru 

5.6.18

Newyddion y Gymdeithas Cerdd Dant

Cwrs Gosod a Chyfeilio 2018

Cynhelir Penwythnos preswyl i ddysgu sut i osod a/neu cyfeilio Cerdd Dant Medi 7fed-9fed, 2018 yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod.


Mae'n rhaid gwneud cais am le ar y cwrs CYN Awst 17eg, 2018.


Ffurflen gais ar wefan y Gymdeithas.



Cyfarfod Blynyddol 2018

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas dan Lywyddiaeth Eleri Roberts ar ddydd Sadwrn, Hydref 6ed, 2018 am 2:00 o'r gloch y.p yn Ysgol Gynradd Y Frenni, Crymych, Sir Benfro.


Croeso cynnes i bawb.


24.5.18

Hysbysebu yn Rhaglen y Dydd

Annwyl Gyfeillion

Gofynnwn yn garedig i chi ystyried cefnogi Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a`r Fro, 2018 trwy osod hysbyseb yn rhaglen y dydd.

Rydym fel cymuned wrthi ar y dasg o godi deugain mil o bunnau er mwyn cynnal yr ŵyl hon. Mae’r gwaith o drefnu digwyddiadau codi arian eisoes wedi dechrau ac mae gwir angen cefnogaeth hysbysebion arnom.


Mae hi`n anrhydedd gweld gŵyl genedlaethol fel hon yn dod i Flaenau Ffestiniog a`r Fro. Bydd yn sicr yn dod â budd economaidd i`r ardal yn ogystal â chyhoeddusrwydd cadarnhaol i`r dref. Mae hi`n ŵyl genedlaethol fydd yn denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a chaiff ei darlledu ar nifer fawr o oriau brig.

Dyma`r telerau:

Tudalen gefn lawn:     £400
Tudalen lawn:             £300
Hanner tudalen:         £100
Chwarter tudalen:      £60
Wythfed tudalen:        £25



Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried ein cais i osod hysbyseb yn rhaglen y dydd.

Yn gywir iawn,

Dewi Lake/ Anthony Evans/ Gwyn Roberts/ Delyth Gray
--------------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018 Llafar Bro.

(Llun- Paul W)


20.5.18

Stiwardio!

Hoffech chi roi help llaw ymarferol i'r Ŵyl? 

 Beth am stiwardio am gyfnod ar y diwrnod?


Mae safle Ysgol y Moelwyn yn un eithaf cymhleth ac felly byddwn angen nifer helaeth o stiwardiaid. 






Os am gynorthwyo, gallwch lawr-lwytho ffurflen o'r ddolen isod, neu rhowch wybod ac fe anfonwn ffurflen i chi.

Diolch yn fawr.

Cliciwch yma ar gyfer y Ffurflen Stiwardio




27.3.18

Noson a hanner

 
Ganol mis Mawrth, cafwyd noson i'w chofio yn neuadd WI y Blaenau.


Daeth y Parchedig Marcus Robinson i Stiniog i gynnal noson o flasu gwin, er mwyn codi arian at Ŵyl Cerdd Dant 2018. Peidiwch a chael eich twyllo gan deitl y gweinidog, oherwydd nid noson sych oedd hon o gwbl.


Cafodd y neuadd lawn gyfle i flasu tri gwydriad o win gwyn, a thri coch, yn ogystal â rowlio chwerthin wrth flasu hiwmor unigryw y Cofi rhwng bob gwydriad.


Pinot Grigio o'r Eidal oedd gwydrad cynta'r noson. 'Dwi'n eich cychwyn chi'n ysgafn', meddai Marcus, 'cyn gweithio ein ffordd trwy winoedd mwy sylweddol at crescendo ar ddiwedd y nos'.



Soniodd am dymheredd cywir ar gyfer gwinoedd, gan rybuddio yn erbyn eu gweini'n rhy oer: 'Mae gwin fel pobol, wyddoch chi...'does yna ddim llawer o ogla' arnon ni pan da ni'n oer nagoes...ond wrth gynhesu, mae rhai ohonom ni'n magu aroma reit arbennig tydan..!' a chwerthin ei hochor hi efo'r gynulleidfa.


Roedd mwy o liw a blas ar yr ail win gwyn: grawnwin viognier o winllan Yalumba yn Awstralia. Ymysg y cochion oedd beaujolais-villages Ffrengig o 2015, a malbec arbennig iawn o'r Ariannin.

Annogodd ni i beidio swnian yn ormodol am brisiau gwin da, a'i bod yn werth buddsoddi punt neu ddwy yn ychwanegol weithiau, er mwyn cynyddu'r pleser:
"Mae angen mwynhau rhywfaint ar fywyd, 'toes" medda fo, "wnai fyth ddallt pam bod rhai pobol isio gwario mwy am eu claddu na maen nhw am eu byw!"
I gyd-fynd â'r gwin, cafwyd gwledd o gaws a bara, diolch i gefnogaeth hael Hufenfa De Arfon a Chaffi'r Graig Fawr.

Ar ddiwedd y noson, cafwyd ocsiwn hwyliog iawn, wrth i Marcus werthu'r poteli oedd heb eu hyfed.


Diolch i Delyth Gray am drefnu noson mor hwyliog. Mae coffrau'r Ŵyl dipyn iachach rwan, a llond 'stafall o bobol wedi cael mwynhau noson gofiadwy a gwahanol iawn i'r arfer.

 (Lluniau: Stu Gray a Paul W)


24.12.17

Mwy o'r Cyngerdd Cyhoeddi

Pwt o erthygl o rifyn Tachwedd Llafar Bro:


Roedd y Neuadd yn orlawn a chafwyd cyngerdd ardderchog oedd yn llwyfan i dalentau’r fro.



Dyma Robert John Roberts, gynt o’r Manod, ond bellach yn byw ar Ynys Môn ac sy’n Gadeirydd Pwyllgor Alawon Gwerin yr Ŵyl, yn canu yn y cyngerdd.




Meddai Nesta Evans, Llan:

Roedd Neuadd Ysgol y Moelwyn dan ei sang ar y noson arbennig hon - ac i rywun nad oedd yno - cawsoch golled! 

Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yw Iwan Morgan ac mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant a gynhelir am y tro cyntaf, yn y Blaenau ym mis Tachwedd 2018.  Llongyfarchiadau Iwan, a phawb sy’n gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant yr Ŵyl. 

Iwan hefyd sydd wedi cyfansoddi’r Cywydd Croeso i’r Ŵyl sydd yn y Rhestr Testunau a gyflwynwyd gan Iwan i Gwenan Gibbard, Cadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, ac a oedd ar werth yn dilyn y cyngerdd.


Awel a Tomos
Sêr y noson oedd côr plant ysgolion dalgylch y Blaenau, yno yn eu gwisg ysgol ac yn canu eu calonnau allan dan ofal Wenna a Sylvia - bendigedig! 

Edrych ymlaen am y cyngerdd nesaf fydd yn cyflwyno gwaith Robat Arwyn, ym Mehefin 2018. 

Mae’r hen dref annwyl wedi cael aml i gnoc yn ddiweddar, ond dyma noson i godi calon pawb oedd yno.
Trio

Meibion Prysor a Dylan Rowlands
Gwefan LLAFAR BRO


11.11.17

Y Cywydd Croeso

Dyma fideo o Gôr Meibion Prysor yn canu Cywydd Croeso Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018, gan Iwan Morgan, yn y Cyngerdd Cyhoeddi (14eg Hydref 2017, Ysgol y Moelwyn).

Maddeuwch y gwaith camera a sain simsan!


CYWYDD CROESO GŴYL CERDD DANT BLAENAU FFESTINIOG A'R FRO 2018

Yn wresog rhoddwn groeso
Yma i’r Ŵyl a geir ym mro
Gwythïen y lechen las,
A heddiw, mae mor addas
Datgan i ‘swyn y tannau’
Angerdd cerdd i’n bywiocáu.

O rwbel ei chwareli
Yn nyddiau heth, cododd hi
Lenorion, cerddorion ddaeth
Yn gewri drwy ragoriaeth;
Diwylliant diwydiant oedd
Yn rhodio hyd ei strydoedd.

I sain cordiau tannau tyn
Doi aelwyd ‘Llys y Delyn’
Yn fan trafod gosodiad,
A rhoddi i glws gerddi gwlad
Liaws o gyfalawon –
Rhai yn lleddf a rhai yn llon.

Do, heb os, daeth newid byd
I faeddu sawl celfyddyd,
Er y Gymraeg yma rydd
Lifeiriant i leferydd
Ei chymdogol drigolion –
Un dre’ o fil yw’r dref hon!

        Iwan Morgan


11.9.17

Gŵyl Cerdd Dant Llandysul 2017

Cofrestru

Cofiwch fod y drefn newydd o gofrestru ar-lein yn weithredol eleni ar gyfer cystadlu yng Ngŵyl
Cerdd Dant Llandysul a'r Fro 2017.

Dyddiad cau cofrestru i gystadlu yw 1af, Hydref, 2017.


Ffurflen gofrestru ar wefan Cymdeithas Cerdd Dant Cymru


-------
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar ddydd Sadwrn, 7fed o Hydref, 2017 am 2:00 o'r gloch yng Nghanolfan Fowlio, Maes Parcio San Pedr, Caerfyrddin (SA31 1QP) dan Lywyddiaeth a gwahoddiad Llywydd y Gymdeithas - Meinir Lloyd (Maesaleg).

Croeso cynnes i bawb - dewch i gefnogi.

12.7.17

Logo'r Ŵyl


Llongyfarchiadau mawr, a diolch hefyd i Erin Roberts, Blwyddyn 9, Ysgol y Moelwyn, am ddylunio logo buddugol ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Fro 2018.



Ar ôl i feirniaid y gystadleuaeth ddewis cynllun Erin, mi gafodd y logo ei orffen yn broffesiynol gan Steven Edwards, a'i gyflwyno mewn gwahanol ffurfiau ar gyfer gwahanol ddefnydd. Diolch yn fawr iddo yntau hefyd.








Gobeithio eich bod yn cytuno'i fod yn gynllun trawiadol ac effeithiol.

8.6.17

Bash yn y Beudy

Lluniau sâl ond noson arbennig! Diolch i bawb fu'n rhan o'r trefniadau.

Band Arall yn gwthio'r cwch i'r dwr, a'r haul dal i dywynnu
Dawnsio gwerin... o ryw fath!


Hefin a Pops wedi ymuno â'r lein-yp




"Moliannwn oll yn llo-o-on..."
Cantorion 'Tri Gog a Hwntw' yn morio; er mae'n edrych yn debycach i chwech neu saith Gog ac un Hwntw i mi...











[Diweddarwyd y dudalen ar y 18fed o Fehefin 2017. Lluniau PW]





11.5.17

Cymanfa Ganu

Cynhelir Gymanfa Ganu Eglwysi Undebol Blaenau Ffestiniog a'r Cylch ar ddydd Sul Mai 21ain, yn Eglwys y Bowydd. Bydd casgliad oedfa'r bore a'r Gymanfa cael ei roi i gronfa Gŵyl Cerdd Dant Stiniog a'r Fro 2018.

10 y bore Y Parch John Owen

5.30yh Y Gymanfa.

Arweinydd- Iwan Morgan;
Organyddes- Wenna Francis Jones

Yn cynnwys eitemau gan:
Côr Meibion y Moelwyn
Y Côr Cymysg
Côr Rhianedd y Moelwyn
Disgyblion ysgolion Tanygrisiau, Maenofferen, Manod, Bro Cynfal ac Edmwnd Prys,
ac Ysgol y Moelwyn.

Croeso cynnes i bawb.



9.5.17

Newyddion o'r Gymdeithas Cerdd Dant

Llogi Telynau 2017-18

Os am logi telyn gan y Gymdeithas Cerdd Dant am y cyfnod Medi 2017 - Awst 2018 dyma'r ffurflenni a'r rheolau.

 

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau yw 31ain o Fai.


Cwrs Gosod a Chyfeilio Cerdd Dant 2017
 

Cynhelir gwrs Gosod a Chyfeilio preswyl eleni yng Ngwesty'r Metropole, Llandrindod ar y 1af - 3ydd o Fedi, 2017.

Mae'r cwrs yn hynod boblogaidd felly archebwch le yn syth. Cwblhewch y ffurflen gofrestru YMA a'i dychwelyd ynghyd â blaendal o £30 i sicrhau lle.



15.3.17

Y Pwyllgor Telyn

Dyma'r criw wedi ymgynull i drafod y testunau a'r trefniadau a llawer mwy!


Yr aelodau ydi:                                                                       🎼🎶🎶🎶✔
Dylan Rowlands
Bethan Eleri Roberts
Lona Wyn Williams
Rhianwen Pugh
Gwenlli Mai Jones

Os hoffech chi gyfrannu i waith unrhyw un o'r is-bwyllgorau, cysylltwch!


12.3.17

Cyngerdd Dathlu -a mwy i ddod!

Cafwyd cyngerdd ardderchog yn Ysgol y Moelwyn ddiwedd Medi 2016 i ddathlu llwyddiant Seindorf yr Oakeley a Chôr y Brythoniaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaed elw o dros £1000 i agor cyfri' Gŵyl Cerdd Dant 2018.

"Un o’r ardaloedd hollbwysig yn hanes y deffroad a fu ym myd canu gyda’r tannau yn ystod y ganrif aeth heibio oedd ardal Ffestiniog,” meddai’r Doctor Aled Lloyd Davies yng nghyfrol gyntaf ‘Canrif o Gân’ - cyfrol sy’n olrhain datblygiad cerdd dant ym Meirionnydd, Dinbych a’r Fflint o 1881 hyd 1998.
“Yno, oddeutu troad y ganrif, ynghanol bwrlwm diwydiant llechi’r cyfnod, yr oedd hefyd fwrlwm diwylliannol, lle rhoddwyd bri ar lenyddiaeth a barddoniaeth, côr a  band, gwleidyddiaeth a chrefydd.”
Er mai atgof o’r dyddiau fu ydy olion tomennydd rwbel y chwareli bellach, a bod nifer yr addoldai
wedi lleihau’n fawr, mae’r bri’n parhau yn yr agweddau diwylliannol eraill, fel y tystia’r gyngerdd yma– yng nghwmni Seindorf yr Oakeley (a gipiodd y wobr gyntaf ym Mhrifwyl y Fenni am y drydedd waith yn olynol) a Chôr y Brythoniaid – y côr meibion a ddaeth gyntaf allan o wyth o gorau yn yr un Brifwyl. Dyma destun dathlu’n wir!

Llun* o dudalen facebook Gŵyl 2016 Llŷn ac Eifionydd.

Mae llawer mwy o weithgareddau wedi eu trefnu eisoes i godi arian at yr Ŵyl. 

Bydd y cyntaf o'r rhain ar y 12fed o Ebrill, yn Festri Capel Bowydd am 7.30, pryd fydd Sian Meinir yn dehongli gwaith Ann Griffiths 'Y Danbaid Fedndigaid Ann', mewn cydweithrediad ag Archif Brith Gof. Tocynnau o Siop Lyfrau'r Hen Bost am £5.

Ar yr 17eg o Fehefin bydd 'Bash yn y Beudy' yn Nhŷ Isaf Llan Ffestiniog.

Bydd Cyngerdd Cyhoeddi'r Ŵyl ar nos Sadwrn, Hydref y 14eg yn neuadd Ysgol y Moelwyn.

Gwyliwch y Calendr am fanylion mwy o nosweithiau a gweithgareddau i ddod!



*Llun -byddwn yn falch o ychwanegu manylion hawlfraint; cysylltwch o.g.y.dda. Diolch

Prysurdeb Apêl 2018

Mae nifer o garedigion wedi ymuno, a does dim dwywaith fod yna ddigonedd o frwdfrydedd yn yr ardal.  Etholwyd Iwan Morgan yn Gadeirydd y Pwyllgor, gyda Gwyn Roberts, Dolwyddelan yn Is-Gadeirydd. Bethan Haf Jones ydy’r ysgrifenyddes ac Anthony Evans ydy’r trysorydd.

Dewi Lake ydy Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd. Mae’r pwyllgor testunau hefyd wedi cael eu sefydlu, ac is-bwyllgorau Cerdd Dant, Gwerin, Telyn, Llefaru, a Dawnsio Gwerin yn ogystal.


Rhai o aelodau'r Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd. Llun -Paul W.

Mae sawl sefydliad ac unigolyn eisoes wedi addo cyfrannu at wobrau’r Ŵyl, ac estynnir gwahoddiad i’r rhai ohonoch, sy’n awyddus i wneud, i gysylltu â’r swyddogion gynted â phosib os gwelwch yn dda.

Byddwn yn cofnodi’r rhoddion ac yn cydnabod pob un yn Rhaglen y Dydd. Felly, chi ddarllenwyr Llafar Bro ymhell ac agos, apeliwn yn daer a charedig arnoch am eich cefnogaeth yn hyn o beth. Y targed a osodwyd inni ydy £40,000.
---

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn Llafar Bro, papur misol cylch Stiniog.